Pensiynau yn y gweithle
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Cael help gyda Pension Wise
Os ydych chi’n dynesu at oed ymddeol, mae Pension Wise yn wasanaeth diduedd am ddim gan MoneyHelper i’ch helpu i ddeall beth yw eich opsiynau o ran pensiynau.
Gallwch chi gael gwybodaeth am Pension Wise ar wefan MoneyHelper.
Pensiwn yw’r arian y byddwch chi’n ei ddefnyddio i fyw arno pan fyddwch chi’n ymddeol. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael pensiwn y wladwriaeth gan y llywodraeth sy'n talu am eich anghenion sylfaenol. Ond mae hefyd yn syniad da ceisio cynilo rhywfaint o arian ychwanegol mewn cronfa bensiwn, er mwyn i chi gael safon byw teilwng.
Mae'n rhaid i'ch cyflogwr gynnig cynllun pensiwn yn y gweithle yn ôl y gyfraith. Mae’n rhaid iddyn nhw gofrestru unrhyw un sy'n gymwys yn awtomatig - mae hyn yn cael ei alw’n gofrestru awtomatig.
Ar y dudalen hon gallwch chi ddod o hyd i wybodaeth sylfaenol am:
y gwahanol fathau o bensiynau yn y gweithle, gan gynnwys pensiynau galwedigaethol, cofrestru awtomatig ar gyfer pensiwn yn y gweithle, pensiynau personol grŵp a phensiynau cyfranddeiliaid trwy’r gweithle
rhai o fanteision ymuno â chynllun pensiwn yn y gweithle
beth fydd yn digwydd i'ch pensiwn os byddwch chi’n gadael eich swydd
ble allwch chi gael further informationrhagor o wybodaeth am bensiynau yn y gweithle.
Beth yw cynllun pensiwn yn y gweithle
Mae cynllun pensiwn yn y gweithle yn ffordd o gynilo ar gyfer eich ymddeoliad drwy gyfraniadau sy’n cael eu didynnu’n uniongyrchol o’ch cyflog. Efallai y bydd eich cyflogwr hefyd yn cyfrannu at eich pensiwn drwy'r cynllun. Os ydych chi’n gymwys ar gyfer cofrestru awtomatig, rhaid i’ch cyflogwr wneud cyfraniadau i’r cynllun.
Bydd y rhan fwyaf o gynlluniau hefyd yn darparu buddion eraill, er enghraifft, cymorth i'ch partner os byddwch chi’n marw.
Mae dau fath o gynllun pensiwn yn y gweithle:
Pensiynau galwedigaethol
Mae cynlluniau pensiwn galwedigaethol yn cael eu sefydlu gan gyflogwyr i ddarparu pensiynau i'w gweithwyr. Mae dau fath gwahanol o bensiwn galwedigaethol:
cynlluniau cyflog terfynol
cynlluniau prynu arian
Cynlluniau cyflog terfynol
Mae cynlluniau pensiwn cyflog terfynol hefyd yn gallu cael eu galw’n gynlluniau buddion diffiniedig. Mewn cynllun cyflog terfynol, mae eich pensiwn wedi’i gysylltu â'ch cyflog tra rydych chi’n gweithio, felly mae'n cynyddu'n awtomatig wrth i'ch cyflog godi. Bydd eich pensiwn yn seiliedig ar eich cyflog pan fyddwch chi’n ymddeol a nifer y blynyddoedd rydych wedi bod yn rhan o’r cynllun. Nid yw faint o bensiwn rydych chi’n ei gael yn dibynnu ar berfformiad y farchnad stoc na buddsoddiadau eraill.
Yn y rhan fwyaf o gynlluniau cyflog terfynol, byddwch chi’n talu canran benodol o'ch cyflog tuag at eich cronfa bensiwn a bydd eich cyflogwr yn talu'r gweddill. Mae hyn yn golygu ei bod fel arfer yn syniad da ymuno â chynllun cyflog terfynol os yw eich cyflogwr yn cynnig un. Fodd bynnag, mae cynlluniau cyflog terfynol yn dod yn llai cyffredin ac nid yw’r rhan fwyaf o gyflogwyr yn eu cynnig mwyach.
Cynlluniau prynu arian
Mae cynlluniau prynu arian hefyd yn gallu cael eu galw’n gynlluniau cyfraniadau diffiniedig. Bydd yr arian y byddwch chi’n ei dalu i'r cynllun yn cael ei fuddsoddi gyda'r nod o roi swm o arian i chi pan fyddwch chi’n ymddeol. Mae eich pensiwn yn seiliedig ar faint o arian a dalwyd i mewn a sut mae’r buddsoddiadau wedi perfformio. Fel arfer, byddwch chi’n talu canran o'ch cyflog i'r cynllun ac efallai y bydd eich cyflogwr hefyd yn talu swm rheolaidd i mewn ond nid yw hyn yn wir bob amser. Fodd bynnag, efallai y bydd yn rhaid i'ch cyflogwr gynnig cofrestru awtomatig i chi ar gyfer pensiwn yn y gweithle, ac os felly bydd yn rhaid iddo wneud cyfraniadau.
Os bydd cynllun prynu arian yn cael ei gynnig i chi drwy'r gweithle, gall fod yn syniad da ymuno os bydd eich cyflogwr yn gwneud cyfraniadau. Fodd bynnag, os nad yw eich cyflogwr yn mynd i wneud unrhyw gyfraniadau i'r pensiwn neu os nad ydych yn gymwys i gael eich cofrestru'n awtomatig eto, efallai y byddwch chi eisiau cymharu buddion y cynllun â chynlluniau pensiwn personol mewn mannau eraill.
I gael rhagor o wybodaeth am bensiynau personol sy’n cael eu cynnig y tu allan i’r gweithle, ewch i dewis pensiwn personol.
Buddion eraill cynlluniau pensiwn galwedigaethol
Yn ogystal â phensiwn pan fyddwch chi’n ymddeol, mae cynlluniau pensiwn galwedigaethol yn aml yn cynnig buddion eraill fel:
yswiriant bywyd sy'n talu cyfandaliad neu bensiwn i'ch dibynyddion os byddwch chi’n marw tra eich bod chi’n dal i fod yn gyflogedig
pensiwn os oes rhaid i chi ymddeol yn gynnar oherwydd afiechyd
pensiynau ar gyfer eich gwraig, eich gŵr, eich partner sifil a dibynyddion eraill pan fyddwch chi’n marw
Cofrestru awtomatig ar gyfer pensiwn yn y gweithle
Rhaid i'ch cyflogwr eich cofrestru ar gyfer ei bensiwn yn y gweithle os ydych chi'n gyflogai cymwys - mae hyn yn cael ei alw’n gofrestru awtomatig. Byddwch chi’n gymwys os ydych chi:
ddim mewn pensiwn yn y gweithle yn barod
yn 22 oed neu’n hŷn
o dan oed Pensiwn y Wladwriaeth
yn ennill llai na £10,000 y flwyddyn
yn gweithio yn y DU
Gallwch chi ddewis peidio â bod yn rhan o gynllun eich gweithle ond mae'n syniad da talu i mewn iddo os gallwch chi fforddio gwneud hynny. Y rheswm am hyn yw bod yn rhaid i'ch cyflogwr wneud cyfraniad i'r cynllun yn ogystal â chi. Hefyd, byddwch chi’n cael gostyngiad treth ar y cyfraniadau y byddwch chi’n eu gwneud i'r cynllun.
Dylech chi gael gwybodaeth am unrhyw gynllun yn y gweithle y mae gennych chi hawl i ymuno ag ef o fewn dau fis i ddechrau gweithio. Os na fyddwch chi wedi cael yr wybodaeth hon, cysylltwch â'ch adran personel neu adnoddau dynol.
Mae gwahanol fathau o gynlluniau pensiwn yn y gweithle gyda manteision gwahanol. Mae'n bwysig deall y gwahaniaethau er mwyn i chi allu gweld a yw'r cynllun yn iawn i chi a pha opsiynau eraill sydd gennych chi.
Os ydych chi eisoes yn rhan o bensiwn yn y gweithle sy'n bodloni'r rheolau ynglŷn â chofrestru awtomatig, does dim rhaid i chi ymuno â phensiwn arall.
Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth a chwestiynau cyffredin am gofrestru awtomatig ar GOV.UK.
Gallwch chi hefyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ymuno â phensiwn yn y gweithle yn awtomatig ar GOV.UK.
Pensiynau personol grŵp a phensiynau cyfranddeiliaid drwy eich gweithle
Mae pensiynau personol yn y gweithle (neu mewn grŵp) a phensiynau cyfranddeiliaid yn gweithio mewn ffordd debyg i'r rhai y gallwch chi eu trefnu drosoch chi eich hun.
Eich cyflogwr sy'n dewis darparwr y pensiwn ond bydd gennych chi gontract unigol gyda darparwr y pensiwn.
Mae pensiynau personol grŵp a phensiynau cyfranddeiliaid yn gallu bod yn opsiwn os nad ydych yn gymwys i gofrestru'n awtomatig ar gyfer cynllun pensiwn eich gweithle.
Rydych chi’n talu cyfraniadau i'ch cronfa bensiwn yn uniongyrchol o'ch cyflog. Mae’r arian yn cael ei fuddsoddi i dyfu eich cronfa y byddwch chi’n ei defnyddio i ddarparu pensiwn i chi pan fyddwch chi’n ymddeol.
Y prif wahaniaeth rhwng trefnu pensiwn personol neu bensiwn cyfranddeiliaid eich hun ac ymuno ag un drwy eich gweithle yw faint o reolaeth sydd gennych chi dros sut mae'r arian rydych chi’n ei dalu i mewn i'ch cronfa yn cael ei fuddsoddi. Gyda chynllun yn y gweithle, mae'r darparwr yn gallu gwneud y dewisiadau buddsoddi ar eich rhan.
Efallai y bydd eich cyflogwr hefyd yn talu cyfraniadau i bensiwn personol neu bensiwn cyfranddeiliaid ond nid oes rhaid iddyn nhw wneud hynny - bydd hyn yn dibynnu ar delerau'r pensiwn. Os na fydd eich cyflogwr chi’n cyfrannu, cymharwch yr hyn y mae pensiwn y gweithle yn ei gynnig â phensiynau tebyg eraill ar y farchnad i wneud yn siŵr eich bod chi’n cael y fargen orau.
Rhagor o wybodaeth am choosing addewis pensiwn personol.
Efallai y byddwch chi hefyd eisiau ystyried cael cyngor ariannol annibynnol.
Cael gwybod am eich cynllun pensiwn yn y gweithle
Mae'n syniad da cael gwybodaeth sylfaenol am yr hyn y mae eich cyflogwr yn ei gynnig pan fyddwch chi’n dechrau gweithio, i'ch helpu i benderfynu a yw'n werth ymuno â'r cynllun pensiwn. Dyma ambell beth y dylech chi ei wybod:
ydych chi’n gymwys i gofrestru’n awtomatig ar gyfer cynllun pensiwn eich gweithle
a yw’n bensiwn galwedigaethol neu'n gynllun pensiwn personol
faint yw eich cyfraniadau. Fel arfer, bydd hyn yn ganran o beth rydych chi’n ei ennill
a fydd y cyflogwr hefyd yn gwneud cyfraniadau ac, os felly, faint. Os ydych chi’n cael eich cofrestru’n awtomatig ar bensiwn yn y gweithle mae’n rhaid i’ch cyflogwr wneud cyfraniadau hyd at lefel sylfaenol
sut bydd yr arian rydych chi’n ei dalu i mewn yn cael ei fuddsoddi
sut byddwch chi’n gwybod beth sydd yn eich cronfa
os byddwch chi’n penderfynu peidio ag ymuno nawr, a fyddwch chi’n gallu ymuno â'r cynllun yn nes ymlaen
Dylai swm eich cyfraniadau ymddangos ar eich slip cyflog bob tro y byddwch chi’n cael eich talu ac ar eich gwybodaeth treth P60 bob blwyddyn. Os ydych chi'n meddwl bod eich taliadau'n anghywir, siaradwch â'ch cyflogwyr ar unwaith a gofyn iddyn nhw ddatrys y broblem.
Os ydych chi’n rhan o undeb, efallai y byddan nhw'n gallu rhoi cyngor a chymorth i chi am eich cynllun pensiwn.
Pryd ddylech chi ymuno â’r cynllun pensiwn yn y gweithle
Ar ôl i chi benderfynu ymuno â chynllun pensiwn eich gweithle, mae'n well ymuno cyn gynted â phosibl er mwyn cael y budd mwyaf o'ch cyfraniadau. Fydd rhai cynlluniau pensiwn ddim yn gadael i chi ymuno yn nes ymlaen, ar ôl i chi ddweud nad ydych chi eisiau ymuno, felly edrychwch ar y rheolau cyn i chi benderfynu.
Os nad ydych chi'n siŵr beth yw'r rheolau ar gyfer eich cynllun, gofynnwch i'ch Adran Adnoddau Dynol neu'ch Adran Bersonel neu i'ch Undeb os ydych chi'n rhan o un.
Beth os oes gennych chi bensiwn yn barod
Does dim terfyn ar y swm y gallwch chi ei gynilo yn eich cynlluniau pensiwn. Mae hyn yn golygu y gallwch chi ymuno â chynllun pensiwn yn y gweithle hyd yn oed os oes gennych chi arian wedi'i gynilo mewn cronfa bensiwn arall neu os ydych chi’n dal i dalu i mewn i gronfa arall, er enghraifft pensiwn personol.
Mae terfynau ar faint o ostyngiad treth y gallwch chi ei gael ar y cyfraniadau rydych chi’n eu gwneud i'ch pensiwn, felly efallai na fydd yn werth talu mwy nag y cewch ostyngiad treth arno.
Os ydych chi'n mynd i dalu i mewn i fwy nag un gronfa bensiwn, dylech chi gyfrifo'ch cyllideb i wneud yn siŵr eich bod chi’n gallu fforddio'r taliadau cyn i chi ymuno.
I gael rhagor o wybodaeth am sut i gyfrifo eich cyllideb, ewch i Cyllidebu.
Beth fydd yn digwydd os byddwch chi’n newid swydd
Mae'r hyn rydych chi'n ei wneud ynglŷn â’ch pensiwn pan fyddwch chi'n newid swyddi yn dibynnu ar ba fath o gynllun rydych chi wedi ymuno ag ef. Gallwch chi ddewis:
gadael eich pensiwn ar ôl yng nghynllun eich hen gyflogwr i'w dalu i chi pan fyddwch chi’n ymddeol
trosglwyddo eich hawliau i gynllun galwedigaethol newydd
trosglwyddo eich hawliau i bensiwn personol.
Mae’n gallu bod yn anodd gwneud y penderfyniad iawn heb gyngor, hyd yn oed pan fydd gennych chi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi. Felly, oni bai eich bod chi’n hollol siŵr, dylech chi gael cyngor ariannol annibynnol proffesiynol.
Mae rheolau arbennig ynglŷn â beth sy'n digwydd i'ch pensiwn os ydych chi wedi cofrestru'n awtomatig ar gyfer pensiwn yn y gweithle a'ch bod chi’n gadael eich swydd. Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau ar www.dwp.gov.uk/faqs ac ar www.dwp.gov.uk/keyfacts.
I gael rhagor o wybodaeth am sut i ddod o hyd i gynghorwr ariannol, ewch i Cael cyngor ariannol.
Cofiwch roi gwybod i’ch hen ddarparwr pensiwn ble rydych chi os byddwch chi’n newid cyfeiriad yn nes ymlaen. Mae’n hawdd colli cysylltiad a gall hyn wneud pethau’n anoddach pan fyddwch chi’n ymddeol.
Gallwch chi weld beth i'w wneud os ydych chi'n ystyried trosglwyddo pensiwn ar wefan MoneyHelper.
Twyll pensiwn
Mae twyll pensiwn wedi dod yn fwy cyffredin ers mis Ebrill 2015, pan ddaeth rheolau newydd i rym i ganiatáu i bobl gymryd rhywfaint neu’r cyfan o’u pot pensiwn fel cyfandaliad. Mae’r sgamiau hyn yn fuddsoddiadau ffug sydd wedi’u cynllunio i’ch twyllo chi i gael eich arian. Maent yn aml yn argyhoeddiadol dros ben a gall unrhyw un gael ei dwyllo.
Gallwch chi gael gwybodaeth am sgamiau ar wefan MoneyHelper.
Rhagor o help a gwybodaeth
Pension Wise
Mae Pension Wise yn wasanaeth diduedd am ddim gan MoneyHelper i’ch helpu i ddeall beth yw eich opsiynau o ran pensiynau.
Gallwch gael gwybodaeth am Pension Wise ar wefan MoneyHelper.
Trefnu apwyntiad gydag arbenigwr arweiniad ar bensiynau
Gallwch drefnu apwyntiad am ddim gydag arbenigwr arweiniad ar bensiynau a fydd yn trafod eich opsiynau pensiwn gyda chi. Bydd apwyntiadau gydag arbenigwyr o Gyngor ar Bopeth yn cael eu cynnal naill ai dros y ffôn neu wyneb yn wyneb.
Bydd apwyntiad yn berthnasol i chi os:
oes gennych chi bot pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio
ydych chi’n agosáu at eich oed ymddeoliad neu'ch bod yn 50 oed neu'n hŷn
Trefnwch apwyntiad Pension Wise ar wefan MoneyHelper, neu ffoniwch 030 0330 1001 rhwng 8am ac 10pm, o ddydd Llun i ddydd Sul. Gallwch hefyd drefnu apwyntiad drwy ymweld â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.
I gael rhagor o wybodaeth am bensiynau personol ac i ddod o hyd i wybodaeth am fathau eraill o bensiynau, ewch i Pensiynau.
MoneyHelper
Gallwch chi gael gwybodaeth a chyngor cyfrinachol am ddim am bensiynau galwedigaethol a phersonol ar wefan MoneyHelper. Mae ganddyn nhw hefyd wasanaeth cynghori sy’n delio â phensiynau cyfranddeiliaid. Dydyn nhw ddim yn rhoi cyngor ariannol na chyngor ar fuddsoddi, nac yn argymell cynnyrch.
GOV.UK
GOV.UK yw gwefan y llywodraeth. Mae’n cynnwys llawer o wybodaeth am bensiwn ymddeol y wladwriaeth a mathau eraill o bensiynau.
Ewch i: www.gov.uk
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.